Prifysgol Caerdydd
1-3 Plas yr Amgueddfa
Caerdydd CF10 3BD
Cymru, Y Deyrnas Gyfunol
Ffôn: +44(0)29 2087 9609
Ffacs: +44(0)29 2087 9054
E-bost: CISHE@cardiff.ac.uk
www.cardiff.ac.uk/socsi/cishe
Datganiad Cenhadaeth CISHE
Mae CISHE yn ymdrin ag ymchwil rhyngddisgyblaethol sy’n fethodolegol arloesol, gyda ffocws ar:
- ddeall a damcaniaethu ynglŷn â phenderfynyddion iechyd a lles y cyhoedd
- datblygu a phrofi ymyriadau a pholisïau i gyflawni gwelliannau cynaliadwy yn iechyd a lles y cyhoedd
- gwerthuso effeithiolrwydd yn drwyadl.
Mae CISHE yn bwriadu arwain a hwyluso ymchwil o ragoriaeth ryngwladol, gan osod pwyslais ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a sicrhau fod ein hymchwil yn cael effaith ar bolisi ac arfer yng Nghymru a thu hwnt.
Mae CISHE yn gartref i Ganolfan Ragoriaeth Ymchwil Iechyd y Cyhoedd DECIPHer – y Ganolfan er Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ar gyfer Gwella Iechyd Cyhoeddus, a ariennir gan yr UKCRC. Y mae hefyd yn gartref i PHIRN - Rhwydwaith Ymchwil Gwella Iechyd y Cyhoedd ac WHIASU - Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru.
Lleolir CISHE yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Caerdydd (dolen) mewn cydweithrediad agos â’r Ysgol Feddygaeth (dolen). Ariannwyd sefydliad yr Athrofa yn 2003 gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (dolen).